Students in a lessons

Dim ond un rhaglen radd?

Ie. Dim ond un. Gradd Baglor yn y Celfyddydau a’r Gwyddorau wedi’i ffurfio’n berffaith, yn eithriadol o  hyblyg, ac yn gyffrous iawn. Tiwtoriaid sydd ar flaen y  gad yn eu meysydd. Cysylltiedig â’r partneriaid diwydiant mwyaf blaenllaw. Mewn cyd-destun, mewn natur.

Bydd hi’n galed. Bydd hi’n her. Ond chwedl Alex Beard yn Natural Born Leaders, “os yw’n teimlo’n hawdd yna rydym yn osgoi meddwl go iawn.” Byddwch yn dysgu’r sgiliau, y fframwaith gwybodaeth a’r foeseg i ail-beiriannu cymdeithas er mwyn creu ffordd fwy cynaliadwy o fyw.

A yw’n radd go iawn?

Wrth gwrs, bydd gennym bartner prifysgol. Partneriaid diwydiant sy’n awyddus i gynnig lleoliadau i fyfyrwyr CMD gan gynnwys Riversimple, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Dŵr Cymru Welsh Water, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Good Energy.

Beth sy’n wahanol?

Llawer. Rydym wedi mynd yn ôl i’r cychwyn. Mae’r radd CMD yn ganlyniad 2 flynedd o weithio gyda niwrowyddonwyr, ecolegwyr, myfyrwyr, cyflogwyr ac addysgwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd. Nid yw’r hyn a ddysgom yn newydd i gyd, yn wahanol i’r ffordd yr ydym wedi ei roi at ei gilydd. Mae gwyddoniaeth yn dangos:

  • Ein bod yn dysgu gyda’n corff i gyd
  • Ein bod yn dysgu orau yn yr awyr agored, am broblemau’r byd go iawn
  • 20 yw’r maint dosbarth gorau ar gyfer cydweithredu
  • Mae ‘blociau’ o ddosbarthiadau byr, ymdrwythol yn llawer mwy dymunol
  • Mae’r celfyddydau yn allweddol i hyder, creadigrwydd a chyfathrebu
  • Mae amser mewn natur yn gysylltiedig â llesiant corfforol ac emosiynol a chyfrifoldeb ecolegol

Felly, yn hytrach na’r 3 tymor prifysgol traddodiadol a sefydledig, darlithoedd enfawr a graddau seiliedig ar bwnc, bydd gradd CMD yn wahanol:

  • Addysgu bloc – 3.5 wythnos o ddysgu dwys, ymdrwythol (gweler blog gwadd David Helfand am fwy o wybodaeth)
  • 20 yn y dosbarth
  • Gwirioneddol ryngddisgyblaethol. Nid yn unig y byddwch yn dysgu gwahanol bynciau, byddwch hefyd yn dysgu sut i integreiddio gwybodaeth gan ddefnyddio pob un o’ch synhwyrau
  • Prosiect blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddatrys problem byd go iawn
  • Mae popeth yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth. Trwy gydweithredu gyda’ch gilydd, tiwtoriaid, partneriaid diwydiant a’r gymuned leol.

Beth fydd canlyniad hyn i mi?

Byddwch yn graddio gyda gradd uchel ei pharch, profiad gwaith a dylanwad. Byddwch eisoes wedi newid ychydig bach ar y byd, ac mae hynny’n beth mawr.

Mae Gradd CMD yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd i chi:

Os byddwch yn mynd i gyflogaeth, bydd gan y radd CMD sgiliau beirniadol miniog fel cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, creadigrwydd, gwaith tîm a menter. Mae 89% o gyflogwyr yn dweud nad oes ots ganddyn nhw pa radd a astudiwyd gennych, mai’r sgiliau sy’n bwysig, â’r rheini yn aml sy’n brin.

Ac os ydych yn bwriadu astudio ymhellach, mae’r rhan fwyaf o raglenni ôl-radd eisiau pobl sy’n gwybod sut i ddysgu, nid gwybodaeth am bwnc arbenigol o angenrheidrwydd.

Yn y byd aneglur sydd ohoni – lle mae yna gymaint o gamwybodaeth ag sydd yna o wybodaeth – y sgìl pwysicaf yw dod o hyd iddo, gwneud synnwyr ohono a’i ddefnyddio’n dda.

Go to top