Mae ymgynghori â myfyrwyr wedi bod yn ganolog o’r cychwyn cyntaf, ac fe fydd bob amser yn dylanwadu ar yr hyn a wnawn. 

Mae panel ieuenctid CMD yn cyfranogi at lunio profiad CMD ac yn helpu i hysbysu’r coleg ar bob cam o’n taith.

Byddwch yn derbyn cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol – Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol City and Guilds, lefel 2. Bydd hyn, ynghyd â’r sgiliau a’r profiad yr ydych wedi’u hennill, yn ddechrau gwych i’ch gyrfa.

  1. Addysgir cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol CMD yn y gymuned. Mewn lleoliadau bywyd go iawn gan diwtoriaid sy’n angerddol dros eu pynciau.
  2. Mae gennym ddosbarthiadau bychain. Gyda 5 neu lai mewn dosbarth, gall myfyrwyr fod yn sicr y byddant yn derbyn y tiwtora sydd arnynt ei angen.
  3. Mae popeth yn ymwneud â’r blaned. Mae ein haddysg i gyd wedi’i chynllunio i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – yn enwedig mewn perthynas â ‘dim newyn’, ‘gwaith gweddus a thwf economaidd ‘, ‘gweithredu dros yr hinsawdd ‘ a ‘ bywyd ar y tir’. 
  4. Mae ein tiwtoriaid i gyd yn berchenogion busnes yn yr ardal leol. Maent yn arbenigwyr sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol diweddaraf ac yn angerddol dros eu pynciau.

Byddwch. Mae ein hymchwil yn dangos y byddwch yn fwy cyflogadwy ar ôl cael addysg CMD.

Mae 90% o gyflogwyr graddedigion yn dweud nad ydynt yn poeni pa radd a astudiwyd gennych, mai sgiliau meddal fel cyfathrebu, cydweithredu, creadigrwydd a menter sy’n mynd â’u bryd. Dyma fydd CMD yn canolbwyntio arno. Mae pobl sy’n graddio yn awr yn debygol o gael 7 gyrfa yn ystod eu bywydau. Mae hyfforddiant eang CMD yn eich addysgu amdanoch eich hun, a sut i ddysgu. Mae’n eich paratoi ar gyfer arbenigo ymhellach ar lefel raddedig neu gallwch gymhwyso’r sgiliau trosglwyddadwy i ystod gyfan o yrfaoedd gwahanol.

Mae niwrowyddoniaeth o ran sut mae pobl yn dysgu yn eglur: rydym yn dysgu yn llawer mwy effeithiol mewn amrywiaeth o amgylcheddau ac yn enwedig yn yr awyr agored, lle mae’n rhaid i’r ymennydd weithio’n galetach i integreiddio llawer o symbyliadau gwahanol a lle mae cyd-destun pob gwers a ddysgir yn unigryw. Felly, y cwestiwn yn CMD yw, pa elfennau o addysgu y gellir ymgymryd â nhw y tu mewn yn unig?

Gellir ymgymryd â bron pob elfen o’r broses addysgu yn unrhyw le – siarad, arsylwi, trafod, codio, lluniadu, dawnsio, cymryd nodiadau, adeiladu pethau. Mae ein dosbarthiadau bychain yn golygu nad oes rhaid bod y tu mewn i glywed darlith. Pan fydd yn hanfodol bod y tu mewn, er enghraifft, i wylio fideo, gwneud arbrawf dan reolaeth neu pan fo’r tywydd yn anffafriol, mae hynny’n iawn. Ond fel arall, rydym o blaid bod yn yr awyr agored gan mai natur yw’r athrawes orau.

Nid oes unrhyw beth sy’n union yr un fath â CMD, ond mae sefydliadau eraill wedi braenaru’r tir gydag elfennau o’n dull gweithredu. Mae graddau rhyngddisgyblaethol yn eithaf cyffredin y dyddiau hyn ond nid oes rhaglen sy’n ymrwymo i archwilio’r holl wahanol ffyrdd y mae pobl yn dysgu – mae ehangder ein rhaglen hyfforddi synhwyraidd sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn unigryw.

Nid yw rhaglen y radd unigol yn unigryw chwaith, ond dyma’r tro cyntaf i sefydliad roi cynnig ar y ffordd y caiff ei strwythuro yn CMD, sef mynd i’r afael â’r her o fyw’n gynaliadwy.

Mae Prifysgol Quest yng Nghanada hefyd yn dilyn y dull bloc o addysgu gyda dosbarthiadau bychain a thaith ddysgu wedi’i chynllunio gan fyfyrwyr. Erbyn hyn, dyma’r coleg sydd â’r nifer uchaf o fyfyrwyr yng Nghanada. 

Bydd ein cyrsiau galwedigaethol cyntaf yn dechrau ym mis 2021. Bydd gradd CMD yn cael ei lansio ym mis Medi 2022. Rydym yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau byrion. Gweler ein tudalen ‘Beth Sy’ Mlaen’ am fanylion.

Mae CMD wedi ailddychmygu addysg drydyddol.

  1. Y gwahaniaeth mwyaf yw bod y coleg yn ymroi i’r heriau enfawr, rhyng-gysylltiedig o newid i ffordd gynaliadwy o fyw.
  2. Mae’r myfyrwyr yn dilyn blwyddyn sylfaen arloesol a gynlluniwyd i’w galluogi i ddarganfod eu doniau eu hunain a’u cymhwyso i broblemau’r byd go iawn.
  3. Mae’r cysyniad o bynciau dewisol yn gyffredin mewn sawl gradd, ond bydd tiwtoriaid yn eich tywys trwy eich siwrnai addysg eich hun, i ble bynnag y gallai hynny arwain. Cyn belled â’ch bod yn gallu dangos cynnydd a ffocws mewn ardal benodol, yna does dim terfyn. Rydym yn ystyried y posibilrwydd o weithio gyda phrifysgolion partner i ddarparu dewis ac ystod mor eang â phosibl o gyneddfau eraill i weithio gyda nhw.
  4. Mae ein cyrsiau addysg bellach galwedigaethol yn canolbwyntio ar ddatblygu economi carbon isel, o fewn busnesau a sefydliadau sy’n bodoli eisoes yn ardal y Mynydd Du.

Mae yna sawl rheswm.

  1. Mae’n un o’r llefydd harddaf yn y byd.
  2. I ni, mae natur yn ystafell ddosbarth ac yn labordy. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda’i amrywiaeth o ecosystemau naturiol bioamrywiol a heriau dylanwadau dynol, yw’r cyd-destun perffaith ar gyfer archwilio’r her o weddnewid cynaliadwy.
  3. Mae Cymru’n esiampl i eraill. Mae wedi arwain y ffordd gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a bydd CMD yn cefnogi rhagor o gamau cadarnhaol cydweithredol sy’n torri tir newydd tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Rydym wedi ein lleoli yng nghanol y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghymru.

Mae CMD yn cynnig un radd hawdd ei chyrchu sydd wedi’i llunio’n berffaith. Cwrs rhyngddisgyblaethol yw’r radd CMD, gyda sylfaen eang yn y flwyddyn gyntaf a luniwyd i’ch galluogi i ryddhau ac archwilio eich doniau, dysgu sut i ddysgu a darganfod eich dull eich hun. Yn yr ail flwyddyn, gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o bynciau dewisol sydd naill ai’n arbenigo mewn 1) celfyddydau 2) tir neu 3) technoleg, neu cewch ddethol dull o ddewis a chyfuno er mwyn dewis eich llwybr dysgu eich hun. Yn y drydedd flwyddyn, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar brosiect sy’n mynd i’r afael ag un o’r heriau a nodwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae CMD hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar hybu economi gylchol leol, carbon isel.

Go to top