RHOWCH RODD I
GOLEG Y MYNYDD DU
"Mae angen CMD ar Gymru, ac ar y byd hefyd." Cerys Matthews

Mae CMD yn creu gwaddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’r blaned. Ymunwch â ni.
Bydd CMD yn gweddnewid addysg drydyddol.
Bydd yn rym ysgogol, yn symud addysg i’r 21ain ganrif, gan ei gwneud yn berthnasol i fyfyrwyr ac i’r byd sy’n newid, gan rymuso myfyrwyr i newid y byd, yn hytrach na chael ei fowldio ganddo.
Bydd CMD yn safle arloesol o ran newid yn yr hinsawdd.
Na, dydyn ni ddim yn golygu y gallwn ei ddatrys, ond fe fydd yn ddysgl Petri o gydweithrediad rhwng myfyrwyr, athrawon a diwydiant, yn gweithio gyda byd natur.
Bydd y Mynydd Du yn ysbrydoliaeth.
Mae’n brydferth, yn heddychlon ac mae ein cymuned yn un wych. Ond rydym yn colli ein pobl ifanc i oleuadau llachar y dinasoedd, tra bod y gwersi y mae angen i ni eu dysgu er mwyn adfywio ein cymdeithas yn y fan hon, mewn natur. Dyna pam mae CMD yn gofyn: Beth all lle ei ddysgu i chi?
Mae angen i ni godi £3.5m i’n galluogi i agor y drysau i fyfyrwyr Addysg Uwch ym 2022.
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i:
- Ddatblygu ein campws
- Talu am gostau’r lansiad
- Sefydlu cronfa galedi myfywyr
Crynodeb:
- Lansio gydag 20 o fyfyrwyr ym 2022
- Unwaith iddo gael ei sefydlu: £30m o fudd economaidd i’r ardal bob blwyddyn
- Cyfleoedd lleol, Arwyddocâd cenedlaethol, Effaith fyd-eang, Pwysigrwydd planedol
- Bydd ein graddedigion yn un o allforion mwyaf dylanwadol Cymru.