Main Grower for Black Mountains College

Job Title: Grower / Site Manager

Hours: Full-time

Salary: £22,000 + tied accommodation on site (total package equivalent to £31,600)

Reporting to: Chief Executive

Location: Talgarth LD3 0EF

 

Black Mountains College is an educational charity; a radical new institution dedicated to climate action and adaptation. We offer three levels of education: further education (vocational training), higher education (undergraduate) and short courses, as well as public education delivered across the Bannau Brycheiniog National Park.

We help people in every sector and of all ages understand what the climate emergency means for them and prepare for just and appropriate responses to the multiplying impacts emerging. At the heart of our operations is Troed-yr-Harn farm, a beautiful venue for land-based learning and agro-ecological experimentation on 120 acres of the Black Mountains outside Talgarth, Powys, in Wales.

We are seeking a Main Grower to develop horticultural and agro-forestry operations on our farm and engage and involve students in the process. The grower will live on site and have responsibility for the oversight and smooth running of the farm. They will support land-based teaching on the farm and student volunteering.

The role requires a hands-on approach to farming, including planning, planting, orchard and tree maintenance, and vegetable production and harvesting.

This is a full-time role for the duration of a three-year funded lottery project with the possibility of a permanent position in due course. It includes accommodation in a tied two-bedroom cottage on the farm, excluding bills

Black Mountains College is part of a dynamic network of organisations and partnerships aiming to transform food systems, influence policy discussions, develop reciprocity and solidarity among members of the Hay on Wye Farming Cluster and The Agroecology Learning Collective and wider networks. There will be opportunities to participate in and engage with our community and network activities.

 

Responsibilities

As the Grower/Site Manager, you’ll need to:

  • Develop and manage fruit and veg production, the tree nursery and agroforestry projects such as food forests, contour alley cropping and hedgerow expansion in partnership with teaching staff, students and other stakeholders.
  • Plan and implement crop rotation, seed sowing, and annual crop planning in line with farm plans and budgets.
  • Monitor and maintain soil health, including composting and natural fertilisation methods.
  • Implement organic pest and weed control strategies to protect crops and maintain ecosystem balance.
  • Lead the harvesting process, ensuring produce is collected at peak freshness and handled properly post-harvest.
  • Build links between the College, community and other producers in the region.
  • Engage students, involve them in land-based activities and help to supervise volunteering and work experience opportunities.
  • Work with our land agent and Development Director to stay abreast of funding opportunities, environmental schemes and payments
  • Ensure that farm activities comply with all government regulations
  • Apply health and safety standards across the farm estate and attend College health and safety meetings whenever necessary
  • Liase with and monitor contractors where necessary such as fencers, hedgelayers, hay and silage contractors
  • Keep financial and other important records up to date and work cooperatively with relevant teams across the College
  • Ensure the teaching facilities team are informed of any issues or works required across the site
  • Arrange the maintenance and repair of machinery, equipment, etc. necessary to the running of the operations, liaising closely with relevant College staff

 

Benefits

  • Accommodation is provided as part of the package as you will be required to live on the farm, excluding bills.
  • £22,000 pa including 28 days leave + bank holidays, pension, and training allowance (works out to the equivalent of a £31,600 salary when accommodation is taken into account)
  • BMC maintains an electric ATV and farm truck at the campus which you may use to support farm activities.

 

Working hours

You will generally work 37.5 hours per week, but you will also be on call in the out of hours in case of emergencies on site.

 

What to expect

  • Travel during the working day may occasionally be necessary.
  • Some students also live on campus.
  • Students and volunteers will also use the site, working with you to create a community vested in the land.

 

Qualifications and skills

Essential

  • At least five years’ experience of managing commercial growing operation at market garden or farm scale
  • Experience of packing and selling into routes to market for horticulture
  • Commitment to agro-ecological principles and regenerative practices
  • A qualification in horticulture
  • IOSH, NEBOSH or equivalent Health and Safety qualification (or be prepared to complete at beginning of employment)
  • Level 3 Forestry First Aid certificate (or be prepared to complete at beginning of employment)
  • Supervisory skills and experience, and management ability
  • Financial experience of managing budgets
  • Collaborative and flexible approach to working with students, volunteers and diverse stakeholders
  • Organisational and time-management skills
  • Ability to work under pressure
  • Willingness to be outside in all weathers and patience to undertake all sorts of practical, sometimes repetitive jobs
  • Self-motivation, with the ability to motivate others
  • larger-scale business awareness
  • Attention to detail
  • A full driving licence and use of a vehicle

Desirable

  • Experience of applying for Glastir or other land-based grants
  • Welsh speaker
  • Experience of teaching and outdoor learning
  • Experience of packing and selling into routes to market for silviculture
  • Qualification in ecology, environmental science, agricultural engineering, farm business management or land/estate management
  • Experience of working with livestock

 

Apply

With a cover letter and CV to jobs@blackmountainscollege.uk by COB July 15, 2024

 


 

Prif Dyfwr ar gyfer Coleg y Mynydd Du

Teitl y Swydd: Tyfwr / Rheolwr Safle

Oriau: Amser llawn

Cyflog: £22,000 + llety clwm, ar y safle (cyfanswm y pecyn yn gyfwerth â £31,600)

Yn adrodd i’r: Prif Weithredwr

Lleoliad: Talgarth LD3 0EF

 

Mae Coleg y Mynydd Du yn elusen addysgol; mudiad newydd radical sydd wedi ymrwymo i addasu a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cynnig tair lefel o addysg: addysg bellach (hyfforddiant galwedigaethol), addysg uwch (israddedig) a chyrsiau byr, yn ogystal ag addysg gyhoeddus a ddarperir ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Rydym yn helpu pobl ym mhob sector ac o bob oed i ddeall beth mae’r argyfwng hinsawdd yn ei olygu iddyn nhw, ac i baratoi ar gyfer ymatebion cyfiawn a phriodol i’r llawer o effeithiau sy’n dod i’r amlwg. Mae fferm Troed-yr-Harn yn ganolog i’n gweithrediadau, ac mae’n lleoliad hyfryd ar gyfer dysgu ar y tir ac arbrofi amaeth ecolegol ar 120 acer o dir ar y Mynydd Du ger Talgarth, Powys.

Rydym yn chwilio am Brif Dyfwr i ddatblygu gweithrediadau garddwriaethol ac amaeth goedwigaeth ar ein fferm, ac i gynnwys ac ymgysylltu â myfyrwyr yn y broses. Bydd y tyfwr yn byw ar y safle ac yn gyfrifol am oruchwylio a chynnal y fferm yn ddidrafferth. Bydd yn cefnogi’r myfyrwyr i wirfoddoli, ac yn cefnogi’r gwaith o addysgu ar dir y fferm.

Mae’r swydd yn gofyn am agwedd ymarferol at amaethyddiaeth, gan gynnwys cynllunio, plannu, cynnal a chadw coed a pherllan, a chynhyrchu a chynaeafu llysiau.

Caiff y swydd hon ei hariannu gan grant am ddwy flynedd, gyda’r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar sicrhau cyllid. Mae’n cynnwys llety mewn bwthyn sydd â dwy ystafell wely ar y fferm, heb gynnwys biliau.

Mae Coleg y Mynydd Du yn rhan o rwydwaith deinamig o sefydliadau a phartneriaethau sy’n ceisio trawsnewid systemau bwyd, dylanwadu ar drafodaethau polisi, datblygu dwyochredd ac undod ymysg aelodau Clwstwr Amaethyddol y Gelli Gandryll a’r Agroecology Learning Collective a rhwydweithiau ehangach. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan ac ymgysylltu â’n gweithgareddau cymunedol a rhwydweithio.

Cyfrifoldebau

Fel y Tyfwr/Rheolwr Safle, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Datblygu a rheoli’r gwaith o gynhyrchu ffrwythau a llysiau, y prosiectau meithrinfeydd coed ac amaeth goedwigaeth fel coedwigoedd bwyd, tyfu cnydau mewn alïau’n gyfuchlinol ac ehangu gwrychoedd mewn partneriaeth â staff addysgu, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.
  • Cynllunio a gweithredu’r broses o gylchdroi cnydau, hau hadau, a chynllunio cnydau blynyddol yn unol â chyllidebau a chynlluniau’r fferm.
  • Monitro a chynnal iechyd y pridd, gan gynnwys compostio a dulliau ffrwythloni naturiol.
  • Gweithredu strategaethau rheoli chwyn a phlâu organig i ddiogelu cnydau a chynnal cydbwysedd ecosystemau.
  • Arwain y broses gynaeafu, gan sicrhau bod cynnyrch yn cael ei gasglu ar ei orau a’i drin yn briodol ar ôl cynaeafu.
  • Meithrin cysylltiadau rhwng y Coleg, y gymuned a chynhyrchwyr eraill yn y rhanbarth.
  • Ymgysylltu â myfyrwyr, eu cynnwys mewn gweithgareddau ar y tir a helpu i oruchwylio cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith.
  • Gweithio gyda’n hasiant tir a’n Cyfarwyddwr Datblygu i gadw llygad ar gyfleoedd cyllido, cynlluniau amgylcheddol a thaliadau
  • Sicrhau bod gweithgareddau amaethyddol yn cydymffurfio â holl reoliadau’r llywodraeth
  • Gweithredu safonau iechyd a diogelwch ar draws ystâd y fferm, a mynychu cyfarfodydd iechyd a diogelwch y Coleg lle bo angen
  • Cysylltu â chontractwyr a’u monitro lle bo angen, fel ffenswyr, gosodwyr gwrychoedd, a chontractwyr gwair a silwair
  • Cadw cofnodion ariannol a chofnodion pwysig eraill yn gyfredol, a chydweithio â thimau perthnasol ar draws y Coleg
  • Sicrhau bod y tîm cyfleusterau addysgu yn cael gwybod am unrhyw faterion neu waith sydd angen ei wneud ar draws y safle
  • Trefnu i gynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau ac offer ac ati, sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y gweithrediadau, gan gysylltu’n agos â staff perthnasol y Coleg

Budd-daliadau

  • Darperir llety fel rhan o’r pecyn – heb gynnwys biliau – gan y bydd gofyn i chi fyw ar y fferm.
  • £22,000 y flwyddyn gan gynnwys 28 diwrnod o wyliau a gwyliau banc, pensiwn a lwfans hyfforddi (cyfwerth â chyflog o £31,600 pan ystyrir y llety)
  • Mae Coleg y Mynydd Du yn defnyddio Cerbydau Pob Tir trydanol a thryc amaethyddol ar y campws, a gallech chi eu defnyddio i gyflawni gweithgareddau amaethyddol.

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos yw’r oriau gwaith, ar gontract amser llawn gyda rhai dyletswyddau y tu allan i oriau gwaith a dyletswyddau ar alwad fel rhan o’r swydd.

 

Beth i’w ddisgwyl

  • Mae’n bosibl y bydd angen teithio yn ystod y diwrnod gwaith o bryd i’w gilydd.
  • Mae rhai myfyrwyr yn byw ar y campws hefyd, ond nid yw deiliad y swydd yn gyfrifol am eu gofal bugeiliol.
  • Bydd myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn defnyddio’r safle hefyd, gan weithio gyda chi i greu cymuned sydd wedi’i breinio yn y tir.

Cymwysterau a Sgiliau

 

Hanfodol

  • O leiaf bum mlynedd o brofiad o reoli gweithgarwch tyfu masnachol ar raddfa amaethyddol neu ardd farchnad
  • Profiad o bacio a gwerthu i mewn i lwybrau i’r farchnad ar gyfer garddwriaeth
  • Ymrwymiad i egwyddorion amaeth ecolegol ac arferion adfywio
  • Cymhwyster mewn garddwriaeth
  • IOSH, NEBOSH neu gymhwyster Iechyd a Diogelwch cyfatebol (neu fod yn barod i gwblhau’r cymhwyster ar ddechrau’r gyflogaeth)
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf Coedwigaeth Lefel 3 (neu fod yn barod i gwblhau’r cymhwyster ar ddechrau’r gyflogaeth)
  • Sgiliau a phrofiad goruchwylio, a’r gallu i reoli
  • Profiad ariannol o reoli cyllidebau
  • Agwedd gydweithredol a hyblyg at weithio gyda myfyrwyr, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid amrywiol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser
  • Gallu gweithio dan bwysau
  • Parodrwydd i fod yn yr awyr agored ym mhob tywydd, ac amynedd i ymgymryd â phob math o dasgau ymarferol, sydd weithiau’n ailadroddus
  • Hunan-gymhelliant, gyda’r gallu i ysgogi pobl eraill
  • Ymwybyddiaeth o fusnes ar raddfa fwy
  • Rhoi sylw i fanylion
  • Trwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd

Dymunol

  • Profiad o wneud cais am gynllun Glastir neu grantiau eraill sy’n ymwneud â thir
  • Siarad Cymraeg
  • Profiad o addysgu a dysgu yn yr awyr agored
  • Profiad o bacio a gwerthu i mewn i lwybrau i’r farchnad ar gyfer coedwriaeth
  • Cymhwyster mewn ecoleg, gwyddor amgylcheddol, peirianneg amaethyddol, rheoli busnesau amaethyddol neu reoli tir/ystâd
  • Profiad o weithio gyda da byw

Gwneud cais

Anfonwch lythyr eglurhaol a CV at jobs@blackmountainscollege.uk erbyn diwedd y diwrnod gwaith ar 15 Gorffennaf, 2024

 

Go to top