DIPLOMA NVQ L2 MEWN SGILIAU GWAITH COED GWYRDD A BONDOCIO CYNALIADWY
Mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC
1 flwyddyn academaidd, llawn amser @ Troed-yr-Harn a choetiroedd lleol eraill o amgylch Talgarth
Mae ein cwrs Sgiliau Gwaith Coed Gwyrdd a Bondocio Cynaliadwy yn gyfle i ddatblygu eich gwaith mewn coetiroedd a gwaith coed.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae bondocio yn ddull a all gynyddu bioamrywiaeth coetiroedd, yn ogystal â darparu ffynhonnell gynaliadwy o bren ar gyfer cynhyrchion coed gwyrdd ac ynni.
Bydd y cwrs galwedigaethol hwn yn rhoi profiad o ddysgu ymarferol yn yr awyr agored yn unol â theori ystafell ddosbarth er mwyn:
- Adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau
- Torri, prosesu a thynnu coedlannau
- Torri a phrosesu coed hyd at 380mm
- Croestorri pren gan ddefnyddio llif gadwyn
- Prosesu deunyddiau coedlannau a chynhyrchion coed gwyrdd
- Miniogi a chynnal offer llaw gydag ymyl
- Rheoli achosion o lygredd
- Monitro a chynnal iechyd a diogelwch
Pam astudio Sgiliau Gwaith Coed Gwyrdd a Bondocio Cynaliadwy?
Bydd Sgiliau Gwaith Coed Gwyrdd a Bondocio Cynaliadwy Lefel 2 CMD yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch cychwyn ar eich llwybr i yrfa amrywiol a hwyliog.
- Symud i Lefel 3 Gwaith Coed Gwyrdd Bondocio
- Defnyddio’r cymhwyster hwn tuag at ymuno â chwrs israddedig CMD
- Defnyddio sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y sector coed a phren
Pam astudio yn CMD?
- Mae gan diwtoriaid y cwrs brofiad helaeth o sbectrwm eang o fondocio a gwaith coed gwyrdd, gan ddod â thechnegau a gwybodaeth gyfoes.
- Bydd myfyrwyr heb y graddau angenrheidiol eto (gradd 4/ C neu uwch) yn cael addysg a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer TGAU Saesneg a Mathemateg.
- Ein Rhaglen CMD 100 awr mewn ecoleg, cynaliadwyedd a sgiliau bywyd.
Faint fydd yn ei gostio?
Ariennir holl ffioedd dysgu ar gyfer addysg bellach yn llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pawb waeth beth fo’u hoedran.
Dysgwch am LCA a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Bydd rhai costau dewisol ar gyfer offer arbenigol fel a ganlyn:
Sgiliau Gwaith Coed Gwyrdd a Bondocio Cynaliadwy: Esgidiau diogelwch, menig, gêr pen a gwarchodwyr llygaid, trowser llif gadwyn, pecyn cymorth cyntaf personol. Tua £340.
Bydd gennych yr opsiwn i brynu’r rhain eich hun, ymgeisio am grant gennym ni neu eu benthyg gan CMD.
Ymgeisiwch nawr >Sut i ymgeisio
Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau i ni, ymuno ag un o’n sesiynau blasu neu drefnu i gael sgwrs gyda’r tiwtor, anfonwch e-bost atom.