Young people p

Photograph by Simon Holliday

Rydym yn ailddychmygu addysg mewn cyfnod o argyfwng ecolegol, pan fo ein cymdeithasau a’n heconomïau yn wynebu her na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae yna ffordd well o wneud pethau. Yn gyntaf, mae angen i ni ddychmygu hynny. Yna mae angen i ni ei chreu.

Coleg sy’n ymroddedig i’r blaned. Ar bob lefel. Yn yr hyn yr ydym yn ei addysgu, yn ein ffordd o addysgu, ein hadeiladau, cynhyrchu pŵer ac effaith ein cynfyfyrwyr. Dysgwch fwy am y modd y bydd ein myfyrwyr yn astudio, ac am y campws.

Mewn natur. Mae Coleg y Mynydd Du, fel y mae’r enw yn ei awgrymu, yng nghanol y Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog. Bydd addysg mewn cyd-destun, yn yr awyr agored, ac mewn lleoliadau cymunedol. (Ynghyd â’n campws gyda’i labordai uwch-dechnoleg o’r radd flaenaf, a mannau cydweithredol.)

Yn awr. Nid yw hyn erioed wedi teimlo mor bwysig. Mae angen i ni sbarduno’r newidiadau a gwneud y newidiadau. Bydd cyrsiau galwedigaethol yn cychwyn ym mis Ionawr 2021. Bydd gradd CMD yn cychwyn ym mis Medi 2023.

Mae’n hanfodol i’n planed. Bydd CMD yn sbarduno gweddnewidiadau yn ein cymdeithas – popeth o’r economi, y ffordd yr ydym yn rheoli tir, y ffordd yr ydym yn mesur llwyddiant, i’r ffordd yr ydym ni, fel unigolion, yn byw. I weld sut y daethom i fodolaeth, darllenwch ein stori hyd yn hyn.

Mewn ffordd sy’n ymwybodol o’r blaned. Beth bynnag a wnawn, rydym yn ymrwymo i lynu wrth werthoedd CMD.

Go to top