Mae Coleg y Mynydd Du yn Goleg newydd wedi ei leoli ym Mannau Brycheiniog sydd â chynlluniau uchelgeisiol i ehangu ei wasanaethau yn y dyfodol.

Mae CMD yn cynnig model newydd o addysg, gan ei gwneud yn fwy perthnasol i fyfyrwyr ac i’r byd sy’n newid yn gyflym, gan alluogi myfyrwyr i newid y byd yn hytrach na chael eu mowldio ganddo. Rydym yn cynnig addysg bellach alwedigaethol ac yn datblygu math newydd unigryw o radd israddedig.

Mae CMD yn elusen gofrestredig sy’n cael ei rhedeg fel cwmni wedi’i gyfyngu gan warant.

Mae bwrdd cyfarwyddwyr y cwmni hefyd yn ymddiriedolwyr yr elusen. Er mwyn ein helpu i dyfu, mae angen pobl brofiadol arnom i ymuno â’n Bwrdd. Rydym yn arbennig o awyddus i recriwtio aelodau sy’n arbenigo mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Profiad o ffermio yng Nghymru;
  • Profiad uwch ym maes addysgu a rheoli addysg uwch;
  • Addysg bellach;
  • Profiad o godi arian ar gyfer busnesau sy’n cychwyn;
  • Ecoleg a chadwraeth;
  • Gallu siarad Cymraeg

Cynhelir cyfarfodydd y bwrdd bob chwarter ym mhencadlys Talgarth, er bod cysylltu-o-bell mewn cyfarfodydd yn dderbyniol. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am osod strategaeth a pholisïau CMD ac am arwain a chefnogi’r Prif Weithredwr a’r tîm.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag am ymuno â’r Bwrdd, cysylltwch â Ben Rawlence drwy ebostio ben@blackmountainscollege.uk neu 07984816013

Go to top