Mae arnom angen athro a chydlynydd rhaglen i ymuno â’n tîm bychan a deinamig yng nghanol Talgarth yng Nghymru. Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig sy’n angerddol dros rymuso myfyrwyr gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol cynaliadwy. 

Amser Cau— 5pm   14eg Mai 2021

Bydd yr unigolyn yn cydlynu’r tri NVQ CMD. Bydd yn gyfrifol am weithio gyda’r tiwtoriaid penodol i bynciau (Arlwyo Tymhorol, Prysgoedio Cynaliadwy a Sgiliau Pren Gwyrdd a Garddwriaeth Atgynhyrchiol) a chydlynu ac addysgu cynnwys craidd gan gynnwys ecoleg, cynaliadwy a sgiliau bywyd i’n carfan gyntaf o hyd at 16 o fyfyrwyr Addysg Bellach o fis Medi 2021. 

Swydd ran amser yw hon yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos i ddechrau am flwyddyn, gan gynnwys paratoi yn ystod haf 2021 a 30 wythnos o addysgu rhwng Medi 2021 a Gorffennaf 2022. 

Bydd angen bod yn bresennol mewn rhai digwyddiadau i fyfyrwyr, nosweithiau ymgynghori a chynrychioli CMD mewn ysgolion a ffeiri gyrfaoedd. 

Gwybodaeth am CMD:

Coleg newydd yw Coleg y Mynydd Du sy’n helpu i lywio’r broses o bontio i ddyfodol cynaliadwy. Mae’n cynnig cyrsiau byr a hyfforddiant galwedigaethol mewn ‘sgiliau’r dyfodol’ yr ydym yn credu fydd yn fwy angenrheidiol a pherthnasol mewn byd effaith isel, carbon isel o gadwyni cyflenwi byr a tharfu hinsawdd. Rydym wedi’n lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac ar agor i bawb. 

Bydd yr Athro a Chydlynydd Rhaglen CMD yn:

  • Datblygu, rheoli a chyflawni’n rhannol cynnwys craidd 1 flwyddyn CMD (100 awr) gyda phwyslais ar gadwraeth, ecoleg, cynaliadwy a dulliau dysgu
  • Cynnal sesiynau ymsefydlu gyda myfyrwyr a thiwtorialau ar thema cynaliadwyedd 
  • Bod yn gyfrifol ar gyfer y Gronfa Ddata Dysgwyr
  • Rheoli cylchlythyr misol y myfyrwyr
  • Mynychu cyfarfodydd safoni bob tymor a chydlynu staff addysgu pynciau penodol eraill i sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn llyfn. Mynychu a chynnal cyfarfodydd DPP rheolaidd.

Sgiliau Hanfodol 

  • Cymhwyster cynorthwyydd addysgu HLTA uwch neu rywun gyda Statws Addysgu Cymwys neu gyffelyb
  • Meddwl yn greadigol gyda diddordeb mewn addysg gynaliadwyedd ac angerdd dros sut mae pobl yn dysgu’n wahanol 
  • Enw da y gellir ei brofi i addysgu mewn lleoliad trydyddol 
  • Sgiliau trefnu rhagorol gyda phwyslais ar dalu sylw i fanylion, cadw cofnodion, a deilliannau dysgu 
  • Y gallu i adeiladu perthnasoedd positif ac ysbrydoli myfyrwyr, gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da 

Dymunol

  • Gwybodaeth am Systemau Rheoli Ysgolion
  • Siaradwr Cymraeg
  • Profiad o ddefnyddio GSuite, Microsoft Office

Termau

  • Cyflog yn dibynnu ar brofiad 
  • Mae pecyn cystadleuol ar gael ar gyfer yr ymgeisydd iawn
  • Cyfleoedd hyfforddiant ar gael

Mae CMD yn gyflogwr cynhwysol a gweithredu cadarnhaol. Byddem wrth ein bodd o glywed gan ymgeiswyr o bob cefndir diwylliannol ac addysgol. 

Gwneud Cais

Anfonwch CV a llythyr cyflwyno at: jobs@blackmountainscollege.uk

 

Go to top